| Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig |
|
| Cyfieithu |
“O, gyda llaw, mae angen hwn erbyn Dydd Gwener!” Dim problem – mae yna ateb. |
| Gwneir y cyfieithiadau gan ieithyddion yn eu mamiaith a chânt eu proflenni’n annibynnol cyn eu hanfon mewn fformat priodol. |
| Cysodi a DTP |
Caiff pob cyfieithiad ei fformatio er mwyn adlewyrchu'r ddogfen wreiddiol. Fodd bynnag, os oes angen, medrwn drefnu ei fod (drwy ddefnyddio nifer o becynnau meddalwedd) yn adlewyrchu'r ddogfen wreiddiol neu'n cyd-fynd â phatrymlun penodol.
Ar gyfer ieithoedd nad ydynt yn defnyddio'r wyddor Lladin fel Tseinëeg, Arabeg, Groeg, Rwsieg, Hindi, Hebraeg neu Gorëeg, medrwn gyfieithu, cysodi a rhoi ar bromid a ffilm, neu ddarparu ffeiliau a fformatiwyd fel EPS, TIFF neu PDF. Mae hyn yn arbennig o berthnasol os ydych yn ymwneud â phrosiectau iaith ond heb fod eisiau buddsoddi mewn amrywiaeth o feddalweddau a ffontiau ar gyfer ieithoedd tramor. |
| Cyfieithu ar y Pryd |
| Yn ogystal â’r gwasanaethau cyfieithu a chysodi a gynigir gennym, medrwn ddarparu cyfieithwyr ar y pryd tra-hyfforddedig ar gyfer cynadleddau, llysoedd barn, busnesau a’r gwasanaethau cyhoeddus. Rydym wedi teithio gyda chwsmeriaid i fannau tu allan i’r DU ac wedi rhoi cymorth amhrisiadwy iddynt gaffael cytundebau busnes. |
|