|
|
Cyfieithu Proffesiynol • Cysodi a DTP • Cyfieithu ar y pryd |
| Hafan |
Proffil |
Gwasanaethau |
Pryd mae angen hwn? |
Rhychwant |
Hanes |
PRIS |
Cysylltwch â
|
| |
 |
| |
 |
| Pryd mae angen hwn? |
| Rydym wedi pendroni cryn dipyn ynghylch sicrhau bod gwaith yn mynd yn ei flaen yn rhwydd ac i’r perwyl hwn rydym wedi cynllunio calendr arbennig. Os glynwn i gyd wrth y calendr hwn, dilëir pob problem. Byddwch gystal â rhoi gwybod i ni am unrhyw wyriadau a fedrent fod yn angenrheidiol er mwyn cwrdd â gofynion eich Cwmni. |
“O, gyda llaw, mae angen hwn erbyn Dydd Gwener!” |
| |
| GWY |
GWE |
GWE |
GWE |
IAU |
MER |
MAW |
| 8 |
7 |
6 |
5 |
4 |
3 |
2 |
| 15 |
14 |
13 |
12 |
11 |
10 |
9 |
| 22 |
21 |
20 |
19 |
18 |
17 |
16 |
| 29 |
28 |
27 |
26 |
25 |
24 |
23 |
| 36 |
35 |
34 |
33 |
32 |
31 |
30 |
|
| |
Datblygwyd y calendr hwn er mwyn ymdopi â gwaith brys. Mae’n rhaid i bob gwaith brys gael ei gwblhau ddoe, felly mae’r dyddiadau i gyd yn rhedeg ar yn ôl. Gyda’r calendr hwn, gall cwsmer osod archeb am waith ar y 7ed a’i dderbyn ar y 3ydd.
Mae pawb eisiau gwaith wedi ei gwblhau erbyn Dydd Gwener – felly mae yna dri Dydd Gwener ym mhob wythnos.
Mae yna bum diwrnod newydd ar ddiwedd bob mis – ar gyfer y tasgau ‘diwedd y mis’ hynny.
Nid oes diwrnod cyntaf i’r mis – felly nid yw’n bosibl cyflawni’r tasgau ‘diwedd y mis’ yn hwyr.
Nid yw neb yn hoffi Dydd Llun – felly dilëwyd hwy.
Nid yw Dydd Sadwrn na Dydd Sul yn bodoli – er mwyn cadw cyfraddau tâl dros ben oriau i leiafswm.
Mae yna ddiwrnod arbennig bob wythnos o’r enw ‘ Dydd Gwyrth’ wedi ei neilltuo ar gyfer ‘Cyflawni Gwyrthiau’.
|
|
|